O'r Bala i Albuquerque: 'Mae'r iaith Gymraeg yn fy enaid i'
- Cyhoeddwyd
"Mae'r iaith Gymraeg yn fy enaid i."
Dyna ateb Jean Rhoades sy'n wreiddiol o Landderfel ger Y Bala i unrhyw un sy'n gofyn iddi sut mae hi wedi cadw ei Chymraeg mor bur a hithau'n byw yn Albuquerque, New Mexico ers 1956.
Daeth Jean, sy'n 92 mlwydd oed, yn ôl i weld ei theulu a'i ffrindiau yn ardal Y Bala fis Awst, gan fynychu'r Eisteddfod ym Moduan a chwarae'r organ yn oedfa Capel Tegid.
'Fyddwn i yn dŵad adra bob haf'
Wedi ei geni yn Llandderfel yn 1930 symudod ei rhieni, Jack ac Enid i'r Bala pan oedd Jean yn bymtheg oed, a'i hysgol uwchradd oedd Ysgol Ramadeg Merched y Bala.
Er yn byw yn bell o fro ei mebyd, mae ardal Y Bala wedi parhau'n agos at galon Jean dros y blynyddoedd.
"Fyddwn i yn dŵad adre bron bob haf achos roedd fy mam a nhad yma ac mae'n gymundeb agos," meddai.
Fel cyn-athrawes mewn ysgol gynradd yn Albuquerque, arferai'r gwyliau haf i fod yn gyfle euraidd iddi ddychwelyd i Gymru am ychydig fisoedd, a'i huchafbwynt blynyddol fyddai mynychu'r Eisteddfod Genedlaethol.
Yr un oedd trefn Jean ar gyfer mis Awst eleni, ac un a ddaeth ar ei thraws yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd oedd y cyflwynydd teledu, Eleri Siôn.
Cafodd Jean ymateb twymgalon i'w sgwrs gyda Eleri Siôn ar y cyfryngau cymdeithasol, ac meddai am ei chyfweliad a aeth yn feiral:
"Mae Eleri yn dal i gysylltu efo fi ar Facebook, mae hi yn annwyl ofnadwy ac mae pawb yn dweud, 'weles i chi ar y teledu, dach chi'n famous!'"
'Y Bala wedi newid'
Ers i Jean adael Llandderfel a'r Bala "yn rhyw eneth oedd isio trafeilio a gweld y byd ar y pryd" mae llawer wedi newid ym Meirionnydd.
Lai na degawd ar ôl i Jean ymfudo dramor yn 1956, fe foddwyd un o gymunedau ei hardal yng Nghwm Celyn. Ond beth yw argraffiadau Jean o'r Bala heddiw?
"Mae llawer o'r hen gymeriadau yn Y Bala wedi mynd ond 'dach chi'n dod i nabod eu teuluoedd ifanc nhw yndê.
"Ond y tro yma dwi wedi gweld mwy o dwristiaid er bod y tywydd heb fod yn ffafriol o gwbl, ond mae angen gen Y Bala am y twristiaid yn y diwedd, ond 'dach chi ddim yn clywed gymaint o Gymraeg yma a bydde yn yr hen ddyddiau.
"Cymraeg oedd y pentre a phawb yn nabod pawb; Modryb hon a Modryb Jên a Modryb Elen ond rŵan mae llawer o'r llefydd wedi cael eu prynu gan bobl sydd yn siarad Saesneg. Mae o'n drueni achos mae'n rhaid i'r iaith ddal i fynd a mae yna gymaint o bobl yn y wlad yn gweithio yn galed i gadw'r iaith.
"O'n i wrth fy modd yn gweld y ddynes ddaru gael y cyntaf yn y dysgwyr ym Moduan eleni, oedd hi'n wych ac yn fam i saith o blant ac eto yn siarad yr iaith yn bur."
Rhywbeth arall sy'n digalonni Jean yw gweld capeli'r Bala'n wag ar y Sul.
Eglura wrth eistedd ar stôl yr organ yng Nghapel Tegid:
"Mae gen i atgofion o'r capel yma yn llawn, yn enwedig mewn cymanfa ganu a phethau felly yndê.
"Wnes i chwarae'r organ ar ddiwedd yr oedfa ddydd Sul dwytha, chydig ofnadwy o bobl oedd yn yr oedfa, mae'n drist."
'Dwi wastad wedi mwynhau cerddoriaeth'
Ond dyw Jean ddim yn un i ddigalonni, ac mae'n dweud "bod rhaid i fywyd fynd yn ei flaen a bod popeth yn newid."
Un o'r pethau mawr sy'n codi ei chalon yw sylwi ar dalentau ifanc o Gymru.
"Mae yna dalent yma, ddim jest gyda'r canu, ond mewn llenyddiaeth a gweld pobl ifanc mewn corau, mae o'n wych."
Yn gerddor ei hun, mae Jean wrth ei bodd yn gwrando ar gorau meibion fel Côr Treorci, Côr Rhosllanerchrugog a'r Brythoniaid.
Profiad arbennig iddi oedd cael chwarae rhai o'i hoff emynau Cymraeg ar organ Capel Tegid.
"Mae o wedi bod yn un o uchafbwyntiau y gwyliau yma achos o'n i bob amser isio cael y cyfle i chwarae rhai ar yr ogan yma. Yng Nghapel Tegid bu claddedigaeth fy nhad a lle ddaru ni ganu rhai o fy hoff emynau i flynyddoedd yn ôl. Dwi dal yn cofio ym mha sedd oedd fy rhieni yn eistedd ar y Sul."
Ymysg hoff emynau Jean mae Calon Lân sef hoff emyn ei thad, Rwy'n Canu fel Cana'r Aderyn ac Arglwydd Dyma Fi (Gwahoddiad); "mae honne yn annwyl a mi fydda i wastad yn meddwl am y geiriau," meddai.
Disgyn mewn cariad ym Mharis
Ar ôl byw dramor am bron i 70 o flynyddoedd, beth hudodd person sydd mor angerddol am ddiwylliant Cymru i fyw ymhell dros Gefnfor yr Iwerydd?
"Es i ar wyliau i Baris a roedd fy narpar ŵr yno, Raymond, gyda'r llu awyr Americanaidd.
"Fuon ni yn cyfarfod a chael bwyd, wedyn es i adre ac yntau i America a dechrau 'sgwennu. Wedyn ddaru mi fynd yn athrawes i Edmonton yn Canada. Fues i'n athrawes yno am flwyddyn, wedyn ddoth o drosodd i 'nghyfarfod i. Ac wedyn cyfarfod rhyw ddwywaith dair yn Colorado cyn priodi a setlo yn Albuquerque."
Ganwyd mab i Jean a'i diweddar ŵr, Raymond, sef David, ac mae yntau a'i hŵyr Kyle, yn byw ychydig filltiroedd i ffwrdd oddi wrthi "sydd yn braf iawn."
Bywyd yn Albuquerque
Caeau gwyrdd oedd o amgylch Jean wrth iddi dyfu i fyny yn Llandderfel. Anialwch sydd ar gyrion dinas Albuquerque.
Y dyddiau hyn, mae gwylio corau meibion o Gymru ar wefan You Tube a gweld lluniau o'r ŵyn a'r defaid a'r gwartheg ar dudlaennau Facebook ei ffrindiau a'i pherthnasau yng Nghymru'n lleddfu ei hiraeth.
"Dwi fatha taswn i adre yng Nghymru yn edrych arnyn nhw! Dwi reit dda ar y we ond mae yna lawer chwanneg i ddysgu arno fo!" chwarddai Jean.
Dros y blynyddoedd, bu Jean yn weithgar iawn gyda chymdeithas Gymraeg Albuquerque gan drefnu digwyddiadau Gŵyl Dewi a'r Nadolig. Cafodd Jean ei derbyn i'r orsedd fel Sian Derfel yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl yn 1985 am gychwyn y gymdeithas, ac am ei hymroddiad i'r Gymraeg.
'Cadwch eich Cymraeg cywir, clir, gwir'
Pan fydd Jean yn sgwrsio'n Gymraeg, boed yng Nghymru neu dros Facetime, mae ei hiaith a'i thafodiaith Meirionnydd mor naturiol ag erioed.
"Mae'r iaith yn fy enaid neu yndda i achos pan ddo i adre dwi'n ceisio cael y gair iawn yn y Gymraeg ac mae o yno wedi i mi feddwl rhyw ddau funud, ac yn lle defnyddio gair Saesneg yn ei le fo. Mae'r iaith yn wych, Gymru annwyl!"
Beth yw cyngor Jean i Gymry ifanc sydd eisiau byw dramor?
"Arhoswch yng Nghymru. Mae popeth i'w gael yn fan'ma, ond os ewch chi, peidiwch â chael rhyw acen ryfedd ar eich Cymraeg. Cadwch eich Cymraeg cywir, clir, gwir."
'Hwyrach ddo'i i 'Steddfod Wrecsam'
Yn hen law ar deithio siwrnai maith ar ei phen ei hun, dyw oedran ddim yn rhwystro Jean.
"Y gyfrinach ydy dal i fynd, mae'n rhaid!" chwarddai.
"Mae'n braf cael dod nôl i Gymru, a dwi'n dweud mai hwn ydi'r tro olaf ond mae pawb yn deud, 'Na 'dan ni wedi clywed hynny lawer gwaith, a phan ddaw y 'Steddfod i Wrecsam, er y bydda i'n 94 erbyn hynny, hwyrach ddo'i i Wrecsam, gawn ni weld."
Hefyd o ddiddordeb: