Ymddeol o siop bentref ym Môn yn 92 oed

  • Cyhoeddwyd
Sheila

Wythnos yma mae Sheila Roberts yn ymddeol o weithio yn siop Spar yn Y Fali, Ynys Môn, 45 mlynedd i'r diwrnod ers iddi ddechrau.

Yn 92 oed, mae Sheila'n rhoi gorau i'w swydd ac am dreulio mwy o amser gyda'i gŵr, Gwynfor, sydd ar fin troi'n 93.

Aeth Cymru Fyw i'r Fali ar ddiwrnod olaf Sheila i glywed sut mae hi'n teimlo am ymddeol, ac hefyd i glywed gan bobl aeth yno i ddangos gwerthfawrogiad am gyfraniad Sheila i'r pentref.

"O'n i'n gweithio mewn siop arall cyn hon, a 'nes i ddechrau 'na pan o'n i'n 16, ac yno am 12 mlynedd - £5 yr wythnos o'n i'n gael pan o'n i'n gadael yna," meddai Sheila. "Gweithio'n galed bob dydd, mynd ar beic bob dydd ym mhob tywydd o'r Fali i dre (Caergybi)."

Disgrifiad,

Sheila'n trafod ei hymddeoliad

Mae Sheila'n dweud bod rhai agweddau o'r gwaith wedi newid dros y blynyddoedd: "Mae'n haws gweithio yma rŵan na sut oedd hi - mae popeth 'di cael ei bacio'n barod rŵan. Blynyddoedd yn ôl roedd rhaid i ni bwyso popeth."

Dywed Sheila nad oedd hi'n awyddus iawn i orffen gweithio, ond bod amgylchiadau eraill yn golygu mai dyma'r amser i fynd.

"Dwi wrth fy modd yn fama i ddweud gwir, ma'n lyfli yma - ma'n gas gen i fynd! Ond mae'r gŵr yn 93 mis Tachwedd, ond dio'm yn 'neud cystal â fi 'de. Felly dwi'n mynd i edrych ar ei ôl o rŵan, gymaint alla i."

Disgrifiad o’r llun,
Sheila gyda chwsmer ar ei diwrnod olaf yn y gwaith

Mae Ron Williams yn frawd i Sheila, ac mae o'n llawn edmygedd o'i chwaer fawr.

"Mae Sheila wedi bod yn gweithio'n galed ers gadael ysgol," meddai Ron. "'Nath hi ddechrau gweithio'n Lerpwl, ac yna mynd i weithio mewn siop yng Nghaergybi am dros 15 mlynedd, wedyn siop arall am 10 mlynedd, a wedyn i fama am 45 mlynedd.

"Ma' hi'n berson poblogaidd. O'dd hi 'di meddwl darfod o'r blaen, a dwi'n gwybod fasa hi ddim yn darfod heddiw oni bai bo'i gŵr hi ddim yn dda iawn. Yma fysa hi os fasa hi'n byw i fod yn 100, yn gweithio tu ôl i'r til."

Disgrifiad o’r llun,
Sheila gyda'i brawd, Ron

"Dwi'n falch iawn ohoni. 'Da ni 'di colli chwaer a brawd, ond 'da ni dal i fynd rhyw ffordd neu gilydd.

"Gobeithio geith hi flynyddoedd lawer o hapusrwydd rŵan ar ôl ymddeol. Ma' hi'n grêt o chwaer, gwraig da i Gwynfor y gŵr, a mam grêt i'r hogia'."

Mae Sheila yn dweud ei bod yn teimlo'n ifanc hyd heddiw.

"Mae'r staff 'ma'n dda efo fi, ma' nhw'n grêt - nhw sy'n cadw fi'n ifanc i ddweud y gwir. Dwi'm yn teimlo'n oed o gwbl - dwi'n 'neud yr un peth heddiw ag o'n i'n 'neud pan o'n i'n 60.

"Dwi'n codi am chwech yn bora, dod fewn erbyn wyth, gwneud tair awr a hanner wrth y til, wedyn mynd am goffi. 'Swn i'n gallu gwneud mwy, ond nhw (cydweithwyr) sy'n poeni amdana i 'de - am mod i'n mynd yn hen!"

Disgrifiad o’r llun,
Rhai o bobl Y Fali ddaeth i ddymuno'n dda i Sheila ar ei diwrnod ola' yn y gwaith

"Fydda i'n colli gweld y cwsmeriaid, am mod i'n 'nabod nhw i gyd, ac yn sgwrsio efo bob un sy'n dod mewn. Ma' 'na rai pobl sy'n dod 'ma adeg yr haf a deud "ah you're still here!" - fydda i'n colli hynna i gyd. Dwi wrth fy modd efo pobl. Fydda i'n colli'r staff i gyd, ond 'da ni'n cwrdd ddydd Gwener a dwi'n mynd â nhw allan am fwyd."

Cafodd Glyn Jones ei fagu'n agos iawn i Sheila, ac mae hi'n ffrind teuluol erioed.

"Ges i'n nwyn i fyny pedwar drws o Sheila, ac mi roedd fy mam i a Sheila'n ffrindia' gora' - y ddwy yn mynd i'r clwb pensiynwyr efo'i gilydd. Mae hi 'di bod yn gweithio tan rŵan yn 92 oed - dwi jest yn 74 a dal i weithio, ond dwn im os fydda i dal i 'neud yn 92 de!"

Disgrifiad o’r llun,
Sheila gyda Glyn Jones, ffrind teuluol ers blynyddoedd maith

Aeth Glyn ymlaen: "Mae hi 'di bod yn rhan fawr o fywyd y pentre 'ma - pawb yn cael sgwrs efo hi, ac ymwelwyr sy'n dod yma ar wyliau isio cael sgwrs efo Sheila. Ma 'na lot o bobl yn dod yma jest i siarad efo Sheila, a ma'r newyddion bo' hi'n ymddeol yn golled enfawr i'r ardal.

"Dwi 'di dod yma i 'neud y loteri, a cael Sheila i ddewis y nymbyrs!"

Felly beth yw neges Sheila wrth i ni heneiddio a pharhau i weithio? "Os 'da chi'n hapus, ac wrth eich bodd gyda'r job, wel cariwch 'mlaen 'de, fel dwi 'di neud. Dwi 'di gweithio'n galed erioed ond oedd rhaid i fi adael fama rhywbryd doedd!

"Fydda i'n sgwrsio efo cwsmeriaid dwi'm yn 'nabod. Weithiau fydd 'na rai yn dod fewn efo gwynab cas, a mynd o 'ma'n chwerthin - bydda i'n deud darna wrthyn nhw. Dwi wrth fy modd efo pobl!"

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig