Cerddor Calan yn creu cyfrwyau 'anhygoel' i Star Wars a Napoleon

  • Cyhoeddwyd
Shelley Musker TurnerFfynhonnell y llun, Shelley Musker Turner

Mae cynulleidfaoedd canu gwerin wedi mwynhau gwaith y delynores Shelley Musker Turner gyda'r grŵp Calan ers blynyddoedd - ond mae'n bosib iawn eich bod wedi gweld ei gwaith ar sgrin y sinema hefyd.

Pan nad yw hi'n perfformio gyda'r grŵp gwerin mae'r cerddor o Ffair Rhos, Ceredigion yn gweithio fel cyfrwywr (saddler) ar gyfer y diwydiant ffilm.

Erbyn hyn mae Shelley wedi creu cyfrwy ac arfwisg ceffylau ar gyfer mwy na 30 o ffilmiau mawr gan gynnwys Star Wars, Wonder Woman ac, yn fwy diweddar, y ffilm Napolean gan y cyfarwyddwr Ridley Scott - tasg wnaeth brofi'n fwy heriol na'r disgwyl, fel mae Shelley'n esbonio wrth Cymru Fyw: "Fi wnaeth greu'r cyfrwy ar gyfer Napoleon - a Joaquin Phoenix oedd yn chwarae Napoleon.

"Roedd hwnna yn her achos ar gychwyn y broses cawsom ni friff fod e'n fegan ac felly ddim yn fodlon cael unrhyw ledr yn agos ato. Felly roedd rhaid i'r holl gyfrwyo gael ei wneud o ddefnydd arall, oedd yn dipyn o her.

"Mae defnydd arall ar gyfer lleder yn cael ei ddatblygu ond mae'n ddyddiau cynnar a does dim rili dewis arall ar gyfer y lledr ni'n defnyddio ar gyfer cyfrwy, sy'n para mor dda. Felly roedd rhaid trio ffeindio ffyrdd o amgylch hynny - roedd yn waith diddorol iawn a gobeithio oedd y cyfrwyo i gyd yn dda yn y diwedd."

Ffynhonnell y llun, Napoleon
Disgrifiad o’r llun,
Joaquin Phoenix fel Napoleon

Yn ogystal a chreu'r cyfrwy mae Shelley, sy'n byw yn Aberystwyth, yn gweithio'n agos gyda rhai o'r sêr ar y set. Mae rhai ohonynt yn gallu marchogaeth yn dda ond mae'r mwyafrif yn ddibynnol ar y tim o farchogion stunt.

Meddai Shelley: "Mae'n rhaid i ti neud yn siŵr fod y tack cywir ar y ceffyl ar gyfer y golygfeydd cywir - a gwneud yn siŵr fod yr addurno ar y tack ddim yn cael ei dynnu i ffwrdd gan y ceffylau. Dwi'n gweithio'n agos gyda rhai o'r sêr ar gyfer hynny."

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,
Ffilm Star Wars - y cyfrwyo gan Shelley Musker Turner a Nicole Saunders

Ffilmiau ffantasi

Un o'r pethau sy'n rhoi mwya' o foddhad iddi yw creu cyfrwyau ar gyfer ffilmiau ffantasi, sy'n gyfle i fod yn greadigol: "Ni'n creu pethau o'r newydd (ar gyfer ffilmiau ffantasi) felly'n gallu bod yn greadigol - ond mae'n rhaid iddo i gyd i fod yn ymarferol ac yn ddiogel achos mae marchogion stunt yn gwneud pob math o bethau hurt.

"Mae'n rhaid iddo gael ei wneud mewn ffordd diogel felly maen nhw'n gofyn i gyfrwywr profiadol fel fi i greu y math 'na o beth."

Mae angen i'r cyfrwy i adlewyrchu'r cyfnod a steil y ffilm ac hefyd o bosib y wlad lle maent yn ffilmio, fel mae Shelley yn esbonio: "Un project diweddar oedd yn ddiddorol oedd The Nordsman - oedd hwnna'n gyfrwy Ficingaidd.

"Roedd y ffilmio'n digwydd yng Ngwlad yr Iâ lle mae brîd Islandaidd o geffyl. Maen nhw wedi cadw'r brîd yna'n bur iawn ac felly dyw nhw ddim yn mewnforio unrhyw geffylau i'r wlad. Ac hefyd dyw nhw ddim yn caniatau i ti ddod ac offer ceffyl i'r wlad. Felly roedd rhaid creu popeth o'r newydd.

"Roedd y ceffylau'n eitha bach felly roedd rhaid i ni greu cyfrwyau yn arbennig ar gyfer y ponis Islandaidd yno. Ac roedd y cyfrwyau mewn steil canoloesol felly roedd angen lot o ymchwil."

Ffilm ffantasi arall wnaeth Shelley fwynhau gweithio arno oedd Star Wars: "Roedd hwnna'n waith diddorol - wnaethon ni'r cyfrwyau i gyd ac hefyd darnau eraill o wisg y ceffyl.

"Roedd y cyfrwyau yna'n anodd achos roedd y marchogion stunt yn gwneud pob math o stunts ac roedd rhaid iddynt fod yn ymarferol. Mae'r gwaith ffantasi yn hwyl gan mai dyma'r jobs chi'n gallu bod yn greadigol iawn arnynt."

Felly beth yw'r arfwisg mwyaf anhygoel mae hi wedi ei greu?

Meddai: "Dwi'n meddwl mai'r un mwya' anhygoel yn weledol yw'r cyfrwy wnes i greu ar gyfer Napolean."

Ffynhonnell y llun, Catherine the Great
Disgrifiad o’r llun,
Helen Mirren yn ffilm Catherine the Great

Mae miliynau yn fyd-eang wedi gweld ei gwaith hi ar y sgrin, sy'n foddhad mawr: "Mae'n grêt i'w weld ar y sgrin ond yn aml chi'n gorfod aros cwpl o flynyddoedd. Erbyn i'r ffilm ddod allan chi wedi anghofio amdano!"

Ar hyn o bryd mae Shelley yn cydweithio gyda Calan ar ei albwm nesaf, gwaith sy' hefyd yn dod a boddhad iddi: "Mae'n hyfryd i gael yr amrywiaeth achos mae'r gwaith ffilm yn gallu bod yn intense ac yn ddyddiau hir felly mae'n neis i wneud rhywbeth arall sy'n greadigol. Dwi'n lwcus i gael y balans."

Pynciau Cysylltiedig