60 mlynedd o ganu corawl dros y byd

  • Cyhoeddwyd
Neuadd CarnegieFfynhonnell y llun, Brian E Davies
Disgrifiad o’r llun,
Côr Orpheus Treforys yn perfformio yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, gwta chwech wythnos ar ôl ymosodiadau 9/11

Mae Brian E Davies wedi canu mewn corau ers bron i 60 mlynedd, ac wedi cael profiadau anhygoel ar deithiau o amgylch y byd.

O ganu yn Nhŷ Opera Sydney, i ymweld â Berlin cyn ac ar ôl i'r Wal gael ei dymchwel, i berfformio yn neuadd enwog Carnegie yn Efrog Newydd wythnosau yn unig wedi ymosodiadau 9/11, mae Brian wedi cael profiadau bythgofiadwy gyda'i gorau dros y blynyddoedd, ar ac oddi ar y llwyfan. Dyma rai o'i atgofion:

Ffynhonnell y llun, Brian E Davies
Disgrifiad o’r llun,
Mae Brian wedi ysgrifennu llyfr am ei brofiadau o deithio â chorau o dde Cymru - My Choir Journey

Dyma rai o'r profiadau anhygoel fues i'n ffodus i'w mwynhau wrth deithio o amgylch y byd gyda chorau. Mae fy ngwraig, Mari, a fi wedi teithio dipyn yn annibynnol, ond fyddwn i ddim wedi gweld gymaint o leoedd cyffrous oni bai am fy nhaith gorawl. Mae canu mewn côr yn un o'r pethau mwyaf gwerthfawr allwch chi ei wneud.

Neuadd Carnegie, Efrog Newydd - 2001

Ffynhonnell y llun, Brian E Davies
Disgrifiad o’r llun,
Ar daith â'r côr i Efrog Newydd yn 1991, cafodd Brian lun ar yr Empire State Building, gyda'r Twin Towers i'w gweld yn y cefndir, ar 11 Medi. Ddeg mlynedd union yn ddiweddarach, cawson nhw eu dymchwel mewn ymosodiadau terfysgol, a chwech wythnos wedyn, roedd Côr Orpheus Treforys yn ôl yn y ddinas, yn perfformio yn Neuadd Carnegie

Roedd gennym daith i Efrog Newydd wedi ei threfnu eisoes ar gyfer y mis Hydref pan ddigwyddodd ymosodiadau terfysgol 9/11. Er fod yna ychydig o bryder ynglŷn â hedfan, roedd y côr yn awyddus i fynd er mwyn dangos ein cefnogaeth, ac aethom ni i ganu yng nghyngerdd UK with New York yn Neuadd Carnegie ar 21 Hydref 2001.

Roedd yna awra arbennig am y lle, a theimlad fod rhywbeth ar droed, ynghyd â balchder o fod yno. Roedd dros fil yn y gynulleidfa, oedd yn wych o ystyried y digwyddiadau diweddar.

I agor y cyngerdd, roedd Alwyn Humphreys [arweinydd Côr Orpheus Treforys ar y pryd] wedi gwneud trefniant arbennig o dair anthem Americanaidd fel teyrnged; America the Beautiful, God Bless America a Star-Spangled Banner. Roedd hwn yn arwydd o beth oedd i ddod, ac erbyn i ni ganu fersiwn hynod emosiynol o New York, New York, roedden nhw'n dawnsio mas o'u seddi.

Gadawson ni'r llwyfan ar ôl tri standing ovation a llawer iawn o ddagrau. Roedd hi'n noson arbennig iawn nad anghofiwn ni fyth. Yn ôl papur newydd Cymry Gogledd America, Ninnau: 'Roedd y cyngerdd y balm perffaith i bobl Efrog Newydd'.

Berlin - 1985

Ffynhonnell y llun, Brian E Davies
Disgrifiad o’r llun,
Ochr orllewinol Checkpoint Charlie, Berlin yn 1985

Cafodd taith y côr i Ferlin yn 1985 ei drefnu gan y lluoedd arfog Prydeinig. 'Naethon ni deithio yno ar fws, ac wrth i ni deithio tuag at fan croesi'r ffin yn Helmstedt, aeth pethau'n ddifrifol...

Roedden ni'n nawr yn croesi'r Llen Haearn i mewn i Ddwyrain yr Almaen gomiwnyddol ger Checkpoint Alpha. Roedd y gwiriadau diogelwch yn llym iawn cyn i ni gael mynediad i'r autobahn fyddai'n mynd â ni i Orllewin Berlin. Y peth cyntaf wnes i sylw arnyn nhw oedd y tyrau gwylio yn nhir neb. Dilynon ni'r autobahn am 110 milltir, a doedden ni ddim yn cael stopio.

O'r diwedd, 'naethon ni gyrraedd Checkpoint Bravo yn Dreilinden. Ar ôl mwy o archwiliadau diogelwch, cawson ni fynediad eto i'r 'gorllewin'. Roedd Gorllewin Berlin fel ynys yng nghanol Dwyrain yr Almaen, wedi ei amgylchynu â Wal Berlin, ac wedi ei rannu yn adrannau Prydeinig, Americanaidd a Ffrengig.

Roedd ardal Rwsiaidd Dwyrain Berlin ar ochr arall y Wal, ac yn ystod ein hymweliad, trefnodd yr awdurdodau milwrol ein bod ni'n cael teithio i'r dwyrain drwy Checkpoint Charlie.

Aethon ni ar fws milwrol Prydeinig gyda swyddog o'r fyddin, wedi cael ein rhybuddio i fihafio. Daeth swyddogion di-wên o Ddwyrain yr Almaen ar y bws ac astudio'r holl waith papur, ynghyd â chynnal archwiliad manwl o du fewn ac o dan y bws. Roedd rhywbeth eithaf brawychus am y peth.

Ffynhonnell y llun, Brian E Davies
Disgrifiad o’r llun,
Pawb yn cymryd rhan o Wal Berlin yn 1990

Pan ddychwelodd y côr i'r ddinas yn 1990, 'nes i ei gweld hi'n rhyfedd gallu crwydro'r rhydd draw i'r ochr ddwyreiniol drwy Giât Brandenburg. Roedd y Wal yn ddiweddar wedi ei dymchwel, ac fe ddes i ag ambell i ddarn ohoni adre gyda fi.

Festival Interceltique de Lorient - 1979

Ffynhonnell y llun, Brian E Davies
Disgrifiad o’r llun,
Gorymdaith liwgar drwy strydoedd Lorient

Roedd Côr Meibion Cwmbrân wrth eu boddau yn cael eu dewis i gynrychioli Cymru yng ngŵyl 1979 ac roedd e'n brofiad bythgofiadwy.

Uchafbwynt yr ŵyl oedd ar y dydd Sul, pan roedd yna orymdaith enfawr drwy strydoedd Lorient. Roedd miloedd o bobl ar bob ochr i'r stryd; roedd sôn fod rhyw chwarter miliwn o bobl yno!

Roedd yr orymdaith liwgar, ddwy filltir o hyd yn cynnwys holl berfformwyr yr ŵyl a nifer o fandwyr Llydewig mewn gwisg draddodiadol, yn canu eu pibau a drymiau. Yna, y corau a'r dawnswyr gwerin o'r holl wledydd, ynghyd â bandiau pib o'r Alban ac Iwerddon.

Gorymdeithiodd y côr yn falch, gan stopio bob hyn a hyn i roi perfformiad i'r dyrfa werthfawrogol. Mae'r profiad wedi aros yn hir yn y cof.

Taipei, Taiwan - 2004

Ffynhonnell y llun, Brian E Davies
Disgrifiad o’r llun,
Côr Orpheus Treforys yn Taipei yn 2004

Mae Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Taipei yn adeilad hardd yn steil palas Chineaidd. Mae ganddi dros 2,000 o seddau, ac roedd pob tocyn ar gyfer ein cyngerdd ni wedi ei werthu.

Canodd Orpheus ychydig o ganeuon traddodiadol o Taiwan yn iaith Mandarin, a cawson ni gymeradwyaeth frwdfrydig iawn gan ein cynulleidfa, a oedd hefyd wedi mwynhau gweddill ein repertoire Cymreig a rhyngwladol.

Yn y bar wedyn, roedd hi'n amser parti! Roedd yna fand byw ac roedd pawb wrthi'n dawnsio; ni oedd yr unig griw o'r gorllewin oedd yno, ond roedden ni'r un mor frwdfrydig. Cawsom ein perswadio i fynd lan i'r llwyfan i ganu, ac fe ganon ni, mewn Mandarin, y gân Ode to Formosa.

Roedd yr effaith yn syfrdanol. Roedd pawb yn y bar yn eu dagrau; yn bennaf yn bobl ifanc, roedden nhw'n amlwg yn gwerthfawrogi'r criw o Gymry yma oedd yn canu am eu cartref. Roedd y profiad yr un mor gofiadwy â'r cyngerdd.

Tŷ Opera Sydney - 1995

Ffynhonnell y llun, Brian E Davies
Disgrifiad o’r llun,
Côr Orpheus Treforys tu allan i Dŷ Opera Sydney

Yr uchafbwynt yn 1995 oedd ymweliad cynta'r côr ag Awstralia, a oedd yn cynnwys cyngerdd gala yn Nhŷ Opera Sydney.

Roedden ni wedi canu mewn nifer o feniws anhygoel ar draws y byd, ond roedd hwn yn rhywbeth arall. Wrth i ni aros i fynd ar y llwyfan, trodd y gŵr drws nesa i mi - Tecwyn, un oedd wedi canu gyda ni ers blynyddoedd - ac ysgwyd fy llaw a dymuno 'pob lwc'. Dyna'r unig dro i hynny ddigwydd. Anaml o'n i'n teimlo'n nerfus gyda'r Orpheus, ond roedd y noson yma'n wahanol.

Aethon ni ar y llwyfan i groeso gwresog, gyda phobl ar eu traed yn cymeradwyo. Ro'n i'n teimlo ar ben y byd yn rhes flaen y côr. Wrth i Alwyn ddod ar y llwyfan, cododd bawb i ganu Advance Australia Fair. Wrth i bawb setlo nôl yn eu seddi, trodd Alwyn at y côr a dweud 'Give them hell!', ac fe ganon ni Gŵyr Harlech gyda gymaint o arddeliad, roedd e bron yn frawychus!

Aeth y diweddglo 'mlaen a 'mlaen, gyda phump standing ovation. Roedd pobl yn eu dagrau. Wrth i adlais yr Amens olaf ddiflannu, cododd bawb i ganu Hen Wlad Fy Nhadau, ac roedd pawb yn gwybod y byddwn ni'n cofio'r noson honno am byth.

Hefyd o ddiddordeb: