Y timau newydd sy’n rhan o hen draddodiad y Talwrn

  • Cyhoeddwyd
Timau Talwrn y Beirdd - Twtil a Tafarn y Vale

Eleni, mae yna 27 o dimau yn mentro i'r talwrn... ac mae dau ohonyn nhw yn rhai newydd sbon.

Mae tîm Tafarn y Vale, tîm newydd o Ddyffryn Aeron, eisoes wedi ymddangos yn y gyfres ar BBC Radio Cymru, a thro Twtil yw hi nesaf.

Ond pwy yw'r beirdd, a pham dechrau timau newydd sbon?

Tafarn y Vale

Trigolion o Ddyffryn Aeron sydd â chysylltiad â Thafarn y Vale, tafarn gymunedol yn Ystrad Aeron ger Felinfach yw Iwan Thomas, Dwynwen Lloyd Llywelyn a Ianto Jones.

Roedd criw wedi bod yn trafod y posibilrwydd o sefydlu tîm ers sbel, eglurodd Iwan ar raglen Bore Cothi:

"Mae sawl un i gael 'ma sydd â diddordeb, ac o'n i'n ymwybodol, mae'n draddodiad sy'n dod gyda thafarndai cymunedol lle fase tîm yn cael ei chodi.

Disgrifiad o’r llun,
Tafarn y Vale: Dwynwen Lloyd Llywelyn, Iwan Thomas a Ianto Jones

"Penderfynodd rhyw dau neu dri ohonon ni 'c'mon, 'nawn ni roi'n enw mlaen' ar gyfer Steddfod Llambed i gystadlu fan'ny, a gawson ni hwyl go lew... o'dd pobl yn chwerthin yn y llefydd iawn!

"O'dd e'n ddechre da, felly bwrw ati fel'ny. Chware teg i'r timau eraill; rheiny'n ein cefnogi ni ac yn ein hysgogi ni i wneud."

Tîm 'bach a dethol' o dri yw Tîm y Vale, meddai, ond yn llawn brwdfrydedd. Ac er iddyn nhw golli o hanner marc yn unig i dîm Glannau Teifi yn y rownd gyntaf, roedd y criw wedi mwynhau'r profiad o gymryd rhan, er fod yna nerfau, wrth reswm, meddai Iwan:

"Hales i neges i'r ddau arall yn y pnawn, cyn i ni fynd i recordio, a gofynnais i sut oedd y nerfe', a ddywedodd Dwynwen fod y nerfe'n iawn nes i mi ofyn! O'dd y tri ohonon ni 'chydig yn nerfus - ma'n newydd ond'yw e - ond chwarae teg, o'dd y Meuryn a'r gynulleidfa yn garedig iawn. O'dd y tri ohonon ni wir wedi mwynhau'r profiad."

Rhoi enw Dyffryn Aeron ar y map yw'r gobaith, ardal sydd heb ei chynrychioli gan dîm yn y Talwrn o'r blaen, sydd yn syndod o ystyried y traddodiad llenyddol yn yr ardal, meddai Iwan:

"Traddodiad o feirdd bach y wlad, ond ddim yn cystadlu. Un o'r atgofion mwyaf hoffus sy 'da fi, ym mwthyn bach Mam-gu a Tad-cu yn Cribyn a'r Talwrn yn dod ar y weirles, a phob un yn gorfod tawelu.

"Mae diddordeb yn y fro yn sicr, a mae hynny'n rhywbeth 'neith dyfu, ni'n gobeithio, gyda'r tîm maes o law."

Twtil

Tîm newydd, gydag ambell i wyneb cyfarwydd sydd wedi hen arfer â chymryd rhan yn y Talwrn ac ambell i wyneb newydd sbon, yw Twtil sy'n cyfarfod yn eu tafarn leol yng Nghaernarfon i farddoni.

Disgrifiad o’r llun,
Twtil - Steffan Phillips, Manon Awst, Iestyn Tyne, Tegwen Bruce-Deans a Buddug Roberts

Iestyn Tyne ddaeth â'r criw ynghyd, ac mae'n cyfaddef ei hun mai cael cyfle i gymdeithasu rhywfaint oedd y nod, ag yntau'n dad i ferch ddwy oed. Ei gyd-aelodau yw Manon Awst, Steffan Phillips, Tegwen Bruce-Deans a Buddug Roberts, ac mae Iestyn eisoes wedi mwynhau'r cydweithio gyda nhw, eglurodd ar Bore Cothi:

"O'n i wedi bod yn rhan o dimau oedd ar wasgar ym mhob man, ac roedd hi'n anodd iawn cael yr ysbryd tîm 'na pan oeddet ti'n gneud pob dim dros y we.

"Felly yn y Twthill Vaults 'dan ni wedi bod yn cyfarfod i drafod a chydweithio ar rai o'r tasgau sydd wedi bod yn braf, a gwthio rhywun tu hwnt i beth mae o'n ei sgwennu fel arfer."

Disgrifiad o’r llun,
Gobeithio fod Ceri Wyn Jones, y Meuryn, yn garedig â'r timau newydd!

Er fod Iestyn yn hen law ar gystadlu ar y gyfres ers blynyddoedd, mae'n cyfaddef ei bod hi dal yn gallu bod yn anodd i ysgrifennu pethau gwahanol i'r arfer, ac i wneud hynny o flaen cynulleidfa. Er hyn, mae'n croesawu'r her, meddai:

"Dwi'n hun wedi bod yn euog o'i ddilorni o'r blaen, y syniad 'ma fod y Talwrn yn golygu bo' chdi'n gorfod diosg ta'm bach o dy hunan-feirniadaeth a sgwennu pethau 'sa chdi ddim o reidrwydd yn hollol hapus efo nhw na'u cyhoeddi mewn cyfrol... ond dyna gryfder y peth.

"Sgwennu rhywbeth doniol pan ti fel arfer yn gneud pethau dwys, neu sgwennu limrig pan ma' dy gryfder di 'di sgwennu englyn; ti'n trio pethau newydd allan, gweld sut mae pobl yn ymateb."

A beth bynnag y canlyniad yn y Talwrn eleni, mae Iestyn yn siŵr y bydd y cyfeillion yn parhau i gyd-farddoni am amser hir i ddod:

"'Dan ni'n gobeithio, beth bynnag fydd yn digwydd yn y gyfres, y byddwn ni'n parhau i gymdeithasu rhywfaint yn yr amser tan y gyfres nesa'. Felly mae o am ffrindiau'n sgwennu hefyd."

Disgrifiad o’r llun,
Dros yr Aber - enillwyr Talwrn 2023, a hynny am y trydydd tro yn olynnol! A fydd enillwyr gwahanol eleni tybed?

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig