Ateb y Galw: Enfys Clara

  • Cyhoeddwyd
enfysFfynhonnell y llun, Enfys Clara

Enfys Clara sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma. Ar hyn o bryd mae Enfys yn gweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru fel cyfarwyddydd cynorthwyol ar y ddrama Ie Ie Ie.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gwylio fy dau gefnder hŷn a'u tad yn chwarae â Hot Wheels. Roedd y trac yn cymryd lan rhan fwyaf o ystafell fyw fy modryb ac oedd 'na loop-de-loophiwj. Dwi'n meddwl o'n i'n dair, a s'genai ddim syniad pam 'naeth hyn sticio yn fy mhen.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caerdydd! Mae'n lle nes i dyfu lan, so mae wastad yn teimlo fel gartref i fi. Yn spesifig, unrhyw un o'r traethau bach lawr bwys y Taf ym Mharc Bute. Dwi'n caru cael fy amgylchynu gan natur ond hefyd bod yng nghanol dinas.

Ffynhonnell y llun, Enfys Clara

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mynd i lle 'nath fy nghariad dyfu lan am y tro cyntaf. Roedd yr awyr mor glir yn y nos ac roeddwn yn gallu gweld cannoedd o sêr. 'Nathon ni siarad am oriau o dan olau'r lleuad.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Brwdfrydig. Creadigol. Doniol.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Unrhywbeth mae fy nghath, Ghost, yn ei wneud. Mae o'n hoffi rhedeg o gwmpas y tŷ yn neud bacfflips cyn dringo lan fy nghorff ac eistedd ar fy ysgwydd.

Ffynhonnell y llun, Enfys Clara
Disgrifiad o’r llun,
Cath Enfys, Ghost

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Tra'n gweithio mewn bar, nes i ollwng peint o lemonade dros plentyn. Dwi dal yn teimlo'n drwg amdano.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Reit nawr, dwi'n person rili emotional.

Ffynhonnell y llun, Enfys Clara

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Ie, brathu fy ewinedd. Dwi 'di 'neud o ers o'n i yn y meithrin.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Am I normal yet? gan Holly Bourne. Mae'n llyfr am rywun gydag OCD yn trio ffitio mewn gyda phobl newydd ac yn ceisio byw bywyd. 'Nath y llyfr helpu fi teimlo'n llai unig wrth ddechrau triniaeth.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Fy nhadcu, 'nath o farw ar ddechrau 2023 a dwi'n rili colli fo.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n hanner Cuban, mae'r ochr yna o'n nheulu dal yn byw yno.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cwtshio lan ar y sofa dan loads o flancedi gyda fy nghariad a'r gath, Ghost, a bwyta hufen iâ.

Ffynhonnell y llun, Enfys Clara

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun o Ghost ar ei ddiwrnod cyntaf adre. Mae 'di tyfu cymaint ers hynny!

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Zendaya, mae hi'n mor dalentog a dwi bach yn genfigennus o red carpet looks hi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Zendaya ar y carped coch a premier y ffilm Dune 2, 25 Chwefror 2024

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig