Taro'r Post...

Stori brwydr 17 mlynedd am gyfiawnder

Am flynyddoedd fe gafodd gweithwyr eu cyhuddo ar gam o dwyll a dwyn arian gan eu cyflogwr - un o brif sefydliadau Prydain. Fe gafodd bywydau eu chwalu wrth i bobl gael eu carcharu, eu diswyddo, mynd i ddyledion enfawr, a diodde’ straen emosiynol enfawr.

Wrth wraidd y stori mae Swyddfa’r Post, un o sefydliadau mwyaf adnabyddus Prydain y mae miliynau yn ymddiried ynddo bob dydd.

O’r cychwyn cyntaf roedd is-bostfeistri yn mynnu bod system gyfrifiadurol newydd yn creu colledion. Nagoedd, meddai’r Swyddfa’r Post: doedd dim o’i le ar y system.

Dyma stori brwydr hir unigolion am gyfiawnder ac am y gwirionedd, stori’r ‘sgandal cenedlaethol’ sydd â’i gwreiddiau yng Nghymru.

Arian yn diflannu

Tu allan i siop elusen ger promenâd Fictorianaidd Llandudno mae blwch postio coch sy’n arwydd o’r hyn oedd yn arfer bod.

Yma oedd lleoliad swyddfa bost Craig-y-Don. Yma hefyd oedd lleoliad gobeithion Alan Bates.

Mae’n ardal braf a thawel o Landudno, tref sy’n boblogaidd gyda’r bysiau twristiaeth a phensiynwyr. Tydi’r lleoliad ddim yn sefyll allan fel canolbwynt brwydr hir yn erbyn un o brif sefydliadau Prydain.

Ugain mlynedd yn ôl, roedd Alan Bates eisiau menter newydd ar ôl blynyddoedd yn gweithio ar brosiectau yn y diwydiant treftadaeth. Roedd yn ei bedwardegau ac yn chwilio am newid byd gyda'i bartner Suzanne. Daeth busnes Swyddfa Post a siop Craig-y-Don ar werth.

Blwch post

Blwch post Craig-y-don sydd tu allan i hen safle'r Swyddfa Post a'r siop

Blwch post Craig-y-don sydd tu allan i hen safle'r Swyddfa Post a'r siop

Fe benderfynon nhw fuddsoddi degau o filoedd o bunnoedd o’u cynilion i brynu’r busnes ac adnewyddu’r adeilad ac yn 1998 fe gafodd nhw'r allwedd i'r swyddfa bost.

Eu gobaith oedd bod ynghlwm â’r Post am flynyddoedd lawer. Fe wireddwyd y freuddwyd honno – ond mewn ffordd wahanol iawn i’w bwriad.

Yr arwydd cyntaf bod rhywbeth o’i le oedd arian yn diflannu, yn ôl y system gyfrifiadurol.

Horizon oedd enw’r system hwnnw ac roedd wedi ei gyflwyno gan Swyddfa’r Post yn 1995 a’i osod yn Craig-y-Don yn Hydref 2000 a dechreuodd gael trafferthion yn fuan wedyn.

Ar ddiwedd wythnos cyfrif, roedd y ffigurau roedd Horizon yn ei ddweud oedd i fod yn y gangen weithiau yn wahanol i’r hyn oedd yno mewn gwirionedd yn ôl cyfrifon yr is-bostfeistr.

Sgrin yr hen system Horizon

Sgrin yr hen system Horizon

Roedd Alan Bates wedi cysylltu â’r llinell gymorth i geisio deall ble roedd yr arian wedi mynd. Weithiau byddai’n darganfod camgymeriad, dro arall doedd dim eglurhad. I wneud sefyllfa anodd yn waeth, doedd yr holl wybodaeth ddim ganddo er mwyn ymchwilio’n fwy manwl i’r system, a doedd o methu cael mwy o ddata gan Swyddfa’r Post yn ganolog.

Roedd wedi llythyru ei bryderon, gofyn am fwy o hyfforddiant ac wedi cael rhywun yno i’w gynghori. Yn ôl Swyddfa’r Post doedd dim o’i le ar y system.

Roedd ganddo broblem arall - fel pob is-bostfeistr arall ym Mhrydain – oherwydd yn ôl ei gytundeb y fo oedd yn gorfod talu’r gwahaniaeth er mwyn balansio’r llyfrau ar ddiwedd yr wythnos. Roedd wedi gwneud hyn ambell waith efo colledion bychan, ond ar ôl i £1000 ddiflannu a dim syniad ble’r oedd wedi mynd, fe ddechreuodd godi llais.

Mae’n siarad efo Cymru Fyw yn ei gartref ychydig filltiroedd o Craig-y-Don – lle symudodd i fyw ar ôl colli ei swyddfa bost:

“Roedden nhw wedi dod a’r system gyfrifiadurol newydd i mewn, ac roedden ni wedi cael problemau enfawr o’r dechrau – wedi cael pryderon mawr ac roeddwn i’n codi rheiny efo nhw.

“Ar y dechrau roeddwn i’n meddwl mai fi oedd yr unig un efo problemau, ond yn fuan wedyn nes i ddechrau clywed straeon gan bobl eraill oedd efo problemau ond doedd Swyddfa’r Post byth yn dweud dim byd ynglŷn â beth oedd yn mynd ymlaen – dyna’r peth mwya ofnadwy.”

Doedd o ddim ar ben ei hun. Tua'r un cyfnod, dim ond 30 milltir i lawr yr A55 ar Ynys Môn, roedd gŵr arall yn cael problemau tebyg. Byddai ei drafferthion o yn arwain iddo dreulio ei ben-blwydd yn 60 mlwydd oed a dydd Nadolig yn y carchar.

Is-bostfeistr Gaerwen oedd Noel Thomas, a bu’n bostmon cyn hynny. Roedd hefyd yn gynghorydd sir ac wedi rhoi 40 mlynedd o’i fywyd i wasanaethu’r cyhoedd.

“Roedd yn bleser i mi gynrychioli Gaerwen… ac roeddwn i’n cael llawer iawn o bleser yn y swyddfa bost deud y gwir,” meddai wrth BBC Cymru nôl yn 2009. “Roeddech chi yn trin a thrafod bob dim, storis lleol, ac os oedd stori go ddoniol roeddach chi’n cael ei chlywed hi os oeddech chi eisiau neu beidio…”

Chafodd o erioed broblem o dan yr hen drefn o gyfrifo yn y swyddfa bost. Ond yn 2005, bum mlynedd wedi i’r system gyfrifiadurol Horizon ddod i Gaerwen, fe ddechreuodd ei drafferthion.

“Ro’n i’n colli pres a cholli pres… methu yn glir a gwybod lle'r oedd o’n mynd roeddach chdi’n colli rhyw £2,000-£3,000 y mis – yn diflannu o’r cyfrif,” meddai Noel Thomas.

Noel Thomas mewn cyfweliad yn 2009

Noel Thomas mewn cyfweliad yn 2009

O’r cychwyn cyntaf roedd wedi honni mai system gyfrifiadurol Horizon, gafodd ei ddylunio gan gwmni Fujitsu, oedd ar fai am yr anghysonderau.

Mi ffoniodd linell gymorth Swyddfa’r Post dro ar ôl tro ac mae’n dweud iddyn nhw ddweud wrtho fo i beidio â phoeni, byddai popeth yn setlo mewn amser. Doedd cyfrifiaduron ddim yn un o’i gryfderau, ac roedd yn dilyn eu cyfarwyddiadau.

£48,000 ar goll

Felly ar ddiwedd pob wythnos roedd yn arwyddo bod y balans yn gywir – er ei fod yn gwybod nad oedd hynny’n wir.

Pe na bai yn gwneud hynny fyddai o ddim yn cael agor y siop y diwrnod canlynol yn ôl rheolau Swyddfa’r Post, felly roedd yn teimlo bod yn rhaid iddo arwyddo i barhau â’r busnes.

Parhau wnaeth y colledion, a pharhau i arwyddo wnaeth Noel hyd nes i gyfrifwyr ddod i mewn ym mis Hydref 2005.

Roedd y system yn dangos bod £48,000 ar goll.

Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa galwyd am ddau berson arall o Swyddfa’r Post, ac fe wnaeth nhw alw’r heddlu yn syth.

Mae'r atgof yn fyw yn y cof heddiw.

Meddai: “Fel roedd y ddynes yn cerdded drwy’r drws dyma hi’n dweud ‘there he is, cuff him!’ Ond chwarae teg i’r ddau blismon, dyma un yn dweud ‘Mr Thomas will follow us on his own and he’ll meet you in Holyhead Police Station'. Roedd o’n sioc enfawr i mi.

“Ro'n i’n meddwl mod i’n hollol ar ben fy hun. Nath nhw sacio fi straight away a dweud 'does neb ond y chdi wedi gwneud hyn, ti 'di mynd a’r pres'.”

Tua’r un cyfnod - yn 2006-2007 - roedd is-bostfeistr arall hefyd mewn sefyllfa debyg yng Ngheredigion.

Fel Noel Thomas, roedd Alun Lloyd Jones yn gynghorydd ac yn is-bostfeistr. Roedd wedi cymryd yr awenau yn Swyddfa Bost Llanfarian, ger Aberystwyth, ar ôl ymddeol ganol yr 1990au.

Rhannodd ei stori gyda Cymru Fyw:

“Roeddwn i’n gynghorydd ar y cyngor, oedd fel swydd llawn amser ond, ddim i ddod drosodd fel ‘goody two-shoes’ ond roeddwn i eisiau cadw gwasanaethau yn agored yn y pentref yn lle bod popeth yn cau yng nghefn gwlad."

Fe ddechreuodd yntau gael ambell i golled yn ôl y system Horizon. Ambell fil yn brin, a dim syniad pam. Roedd yn amau’r system ond fe dalodd y cyfan yn ôl.

“Roeddwn i’n ffonio cymaint a dweud ‘drychwch tydi’r system ddim yn gweithio – tydw i methu ei gael i wneud be' dwi eisiau iddo wneud’. Doedd yr helpline ddim help o gwbl, dim help. Fydda’ nhw’n gyrru rhywun i lawr a doedden nhw ddim yn gwybod dim mwy na fi.

“Y bottom line oedd tydi Horizon methu bod yn wrong. Doeddech chi methu cwestiynu mai’r Horizon oedd y best thing since sliced bread.”

Yna dros nos fe ddiflannodd bron i £20,000.

“Dwi’n gwybod be ydi’r dywediad yn Saesneg: gobsmacked,” meddai. “Mae hwnna yn disgrifio shwt oeddwn i’n teimlo, absolutely horrified a ddim yn gwybod sut oedd wedi digwydd.”

Fe ffoniodd y llinell gymorth, wnaeth ddweud wrtho arwyddo’r cyfrifon - a byddai popeth yn iawn yn y diwedd. Yn pryderu rhag cael ei gyhuddo o dwyll, fe wrthododd, a galw’r heddlu a’r archwilwyr i mewn.

“Daeth yr auditors i lawr ac edrych arna i yn eitha' bygythiol fel taswn i wedi troseddu. Doedd dim diddordeb o gwbl ganddyn nhw i ffeindio allan a oedd rhywbeth o’i le ar y cyfrifiadur nac i gynnig unrhyw help i fi.

“Y bottom line oedd bod neb o Swyddfa’r Post yn credu bod unrhyw beth yn gallu bod o’i le ar y system. Yn syth, roedd y bai yn dod ar yr is-bostfeistr.

“Roedden nhw’n dweud ‘chi ydi’r unig un efo problemau efo’r system Horizon’ – roedden nhw’n hala ofan ar rywun.

“Dwi erioed wedi dwyn ceiniog yn fy mywyd ac roedd y pwyntio bysedd yn hala fi’n wyllt.”

Roedd yn rhaid iddo ddod o hyd i £20,000 a’i dalu yn ôl mewn deufis.

“Chi methu rhoi pris ar straen – mae straen emosiynol ac ar yr iechyd. Rwy dal yn diodde’ dolur ysbrydol ac emosiynol dros hyn. Roedd fy merch dal yn fyw ar y pryd a bydde hi’n llefen mewn rhwystredigaeth ac yn teimlo dros ei thad. Tydi o ddim yn iawn. Chi ddim fod i drin eich cyd-ddyn fel hynny.”

Fe fenthycodd yr arian gan ei dad-yng-nghyfraith – talu’r cyfan i Swyddfa’r Post, cau’r siop, a rhoi’r gorau i weithio iddyn nhw.

Draw ar Ynys Môn, doedd talu £48,000 yn ôl ddim yn opsiwn i Noel Thomas.

Cafodd ei gyhuddo o ddwyn yr arian ac o gadw cyfrifon ffug – gan ei fod wedi cytuno bod y cyfrifon yn gywir ar ddiwedd pob wythnos.

Sian Thomas yn mynd gyda'i thad i'w wrandawiad yn Llys y Goron, Caernarfon

Noel Thomas gyda'i ferch Sian yn cyrraedd Llys y Goron, Caernarfon

Noel Thomas gyda'i ferch Sian yn cyrraedd Llys y Goron, Caernarfon

Yn y llys, yn 2006, mi ollyngodd Swyddfa’r Post y cyhuddiad o ddwyn ac ar gyngor cyfreithiol fe blediodd Noel Thomas yn euog i gadw cyfrifon ffug gan obeithio osgoi carchar.

Ond fe’i dedfrydwyd i naw mis yn y carchar a’i wneud yn fethdalwr. Dros nos, fe aeth o fod yn gynghorydd sirol uchel ei barch i fod yn droseddwr.

Noel Thomas yn cael ei dywys allan o'r llys

Ar ei ffordd i Walton - Noel Thomas yn gadael y llys fel troseddwr ar ôl ei wrandawiad

Ar ei ffordd i Walton - Noel Thomas yn gadael y llys fel troseddwr ar ôl ei wrandawiad

Yn y carchar

“Cyrraedd Walton oedd y gwaetha’. Ar y dechrau ro’n i yn y gell am 22 awr,” meddai.

“Roedd yr amser yn hir ofnadwy dweud gwir.

“Cael eich cau am 23 awr y dydd, mond cael dod allan i gael bwyd a sefyll ar y landing am ryw chwarter awr ac wedyn mynd nôl i mewn - achos dyna’r math o le oedd o.

“Roedd o fod i ddal 800 o bobl ac roedd 1400 yno…doedd dim lle i chi symud.

“Ond y teulu oedd ar ôl oedd yn wynebu’r broblem, gwynebu pobl, ac roedd hi yn anodd a dweud y gwir; doedd y wraig ddim yn medru dygymod ag o yn dda iawn ond mi oedd ganddi deulu a ffrindiau a mi ddaethon ni drwyddi.”

I’w ferch Siân Thomas, roedd gweld ei thad yn y fath le yn dorcalonnus.

“Roeddan ni’n gyd yn gorfod trio cario 'mlaen a doedd rhywun ddim isho cario 'mlaen achos roedd rhywun yn gwybod bod o mewn ffasiwn le ag oedd o ac roedd o’n job achos roeddan ni’n gwybod doedd o ddim i fod yna,” meddai wrth BBC Cymru yn 2009.

Sian Thomas

Sian Thomas mewn cyfweliad yn 2009

Sian Thomas mewn cyfweliad yn 2009

“Roedd pawb ar goll. Dim Dad. Roedd Dad yn 60 diwrnod cyn 'Dolig – i ni fel teulu diwrnod spesial, roedd o wedi hitio’r 60, y creadur, a dim yn cael mynd i’w weld o – gorfod gyrru cardiau, a neb yn rhoi pen-blwydd hapus mond ‘tria mwynha dy ddiwrnod’. Ac mi frifodd o hynny achos roeddan ni’n gorfod cario 'mlaen a ddim isio...

"Ar ddiwedd y dydd Dad oedd Dad, pam doeddan nhw heb ista lawr i siarad efo fo a gweld be oedd y broblem?”

Un peth mae Noel - gafodd ei ryddhau o'r carchar ar ôl tri mis - yn difaru: “Y mistêc mwya’ nes i oedd seinio'r papurau...’swn i ddim wedi seinio papurau faswn i ddim wedi cael false accounting hyd yn oed. Os faswn i ‘di cau drws y siop ‘swn i ’di bod yn well…”

Grym Swyddfa'r Post

Dyna’n union wnaeth Alan Bates.

Tra roedd Noel Thomas yn ei gell yn meddwl mai fo oedd yr unig un oedd yn y fath dwll, roedd is-bostfeistr Craig-y-Don yn brawf o’r hyn fyddai wedi digwydd iddo petai o wedi gwrthod arwyddo’r cyfrifon – ac mae’n dangos grym Swyddfa’r Post.

Pan ddechreuodd gael trafferthion gyda’r system roedd Alan Bates wedi bod yn codi pryderon am ddau bwynt – pwyntiau fyddai dau ddegawd yn ddiweddarach yn ganolog i achos yn yr Uchel Lys yn Llundain ar gost o ddegau o filiynau o bunnoedd.

Alan Bates mewn cyfweliad

Alan Bates yn dadlau ei achos 12 mlynedd yn ôl ar raglen Taro 9

Alan Bates yn dadlau ei achos 12 mlynedd yn ôl ar raglen Taro 9

Roedd yn dadlau bod diffyg yn y system gyfrifiadurol a hefyd bod annhegwch mawr yng nghytundeb holl is-bostfeistri Prydain.

Y fo fel is-bostfeistr oedd yn gyfrifol am y cyfrifon oedd yn cael eu cyflwyno iddyn nhw yn ddyddiol gan system gyfrifiadurol Swyddfa’r Post - Horizon. Fo hefyd oedd yn gorfod gwneud yn iawn am unrhyw golledion roedd y system yn ei ddangos – neu byddai’n torri ei gytundeb.

Ond doedd ganddo fo ddim rheolaeth o gwbl o’r system nac yn gallu gweld yr holl ddata oedd ar gael i geisio canfod y rheswm tu cefn i unrhyw anghysonderau.

Dim ond Swyddfa’r Post yn ganolog oedd efo’r gallu i wneud hynny.

Felly gwrthododd Alan Bates dalu’r £1000 roedd Horizon yn ddweud oedd yn brin a phrotestiodd yn erbyn annhegwch y cytundeb.

Hen swyddfa bost Craig-y-Don - a rhan o brotest Alan Bates

Hen swyddfa bost Craig-y-Don - a rhan o brotest Alan Bates

Yr un lleoliad heddiw

Yr un lleoliad heddiw

Derbyniodd lythyr gan Swyddfa’r Post yn Awst 2003 yn diweddu ei gytundeb heb unrhyw reswm.

Roedd yn ddi-waith, wedi colli ei fusnes a’r £65,000 roedd wedi buddsoddi yn y busnes.

Nôl ar Ynys Môn, roedd Noel Thomas – oedd yn gwybod dim am drafferthion Alan Bates nac unrhyw is-bostfeistr arall – allan o’r carchar ar ôl tri mis dan glo.

“Colli ffrindiau, colli delwedd, colli parch – a ma’ hwnnw’n beth mawr,” meddai.

“Do, ’da chi wedi colli parch efo rhywfaint o’r gymuned – ac adeg hynny ’da chi’n ffeindio pwy ’di’ch ffrindiau chi pan ’da chi mewn trwbl.

“Pobl sy’n fodlon rhoi braich amdanach chi a siarad efo chi ac mae rhai eraill yn troi eu cefnau a rheiny yn aml yn bobl 'da chi wedi helpu. Mae hwnna wedi bod yn glec.”

Roedd y cyn-gynghorydd yn ceisio ailadeiladu ei fywyd yn ei gymuned fel troseddwr a thwyllwr, yn fethdalwr di-waith.

Yna un diwrnod, fe alwodd y postmon.

Y llythyr

Drwy’r drws, daeth amlen o dde Lloegr. Ynddi roedd llythyr wedi ei arwyddo gan Roch Garrard ac roedd yn dweud hanes ei ffrind, Jo Hamilton. Doedd ei henw ddim yn golygu dim i Noel Thomas, ond fe roedd ei stori yn gwbwl gyfarwydd.

Fel yntau, roedd hithau wedi bod yn rhedeg swyddfa bost ac yn rhan bwysig o’i chymuned. Fel yntau, roedd yn dweud iddi gael trafferthion gyda’r system Horizon, wedi cael colledion anesboniadwy a heb gael help gan ei chyflogwr.

Llythyr i Noel Thomas gan Roch Garrard

Llythyr i Noel Thomas gan Roch Garrard

Roedd £36,000 wedi ‘diflannu’ o’i swyddfa bost ac fe wnaeth ei chyflogwr fynd a hi i’r llys. Plediodd yn euog i gadw cyfrifon ffug i geisio osgoi carchar, ar ôl i gyhuddiad o ddwyn gael ei dynnu nôl.

Llwyddodd i osgoi’r ddalfa - ond bu rhaid iddi dalu’r holl arian yn ôl i’r Post ar ôl i’r pentrefwyr godi £6,000, a hithau godi ail forgais ar ei thŷ, i dalu’r gweddill.

Stori Jo Hamilton oedd wedi ei yrru gyda'r llythyr gan Roch Garrard

Stori Jo Hamilton oedd wedi ei yrru gyda'r llythyr gan Roch Garrard

Roedd merch Noel Thomas wedi ei syfrdanu o glywed y stori.

“Waw – roedd y teimlad yn anhygoel,” meddai Siân. “Roeddan ni gyd yn eistedd rownd bwrdd yn fan yma ac yn mynd ‘Oh my gosh, dim jest ni sy’n mynd trwy hyn mae pobl eraill yn Brydain yn mynd trwydda fo’.”

Roedd Roch Garrard yn gyn-swyddog prawf, a’i gefndir wedi gwneud iddo amau’n gryf yr achos oedd yn erbyn Jo Hamilton, a dechreuodd ymchwilio.

Meddai yn 2009: “Nes i ddod o hyd i nifer fawr o bobl tebyg iawn i Jo – canol oed, dosbarth canol, erioed wedi gwneud dim o’i le. Cymeriadau perffaith oedd yn aml wedi bod  yn is-bostfeistri am amser hir oedd i gyd, mwya’ sydyn, wedi troi yn droseddwyr. Doedd o ddim yn gwneud synnwyr i mi.”

Yn fuan ar ôl iddo ddechrau ymchwilio, fe dorrwyd y stori am y tro cyntaf gan y Computer Weekly ym mis Mai 2009. Roedd y cylchgrawn yn adrodd stori saith person, yn cynnwys Alan Bates a Noel Thomas, oedd efo cwynion tebyg am system Horizon.

Fe ddechreuodd newyddiadurwyr BBC Cymru ymchwilio a daethant o hyd i fwy: dros 30 ar draws Prydain - i gyd gyda stori debyg. Roedd bywydau wedi chwalu, postfeistri wedi eu herlyn ar y cyhuddiad o gadw cyfrifon ffug dan amgylchiadau tebyg, nifer wedi eu gwneud yn fethdalwyr, rhai wedi colli eu cartrefi, eraill wedi cael iselder – a’r rhan fwyaf yn meddwl mai dim ond nhw oedd yn y fath dwll.

Datgelwyd y gwaith ymchwil yma ar raglen materion cyfoes Taro 9 yn Hydref 2009 gyda map yn dangos lleoliadau'r holl bobl oedd wedi siarad efo’r rhaglen.

Map gyda smotiau coch yn dangos achosion

Roedd y map yn dangos achosion ar draws Prydain

Roedd y map yn dangos achosion ar draws Prydain

Meddai Siân: “Pan welodd pobl - wel, jest dim yn y pentre’, ond pobl o gwmpas oeddan ni yn ’nabod yn Ynys Môn - y map a cyn gymaint o bobl oedd ar hwnnw oedd efo problemau, roedden nhw wedi dychryn.

“Wel dim jest nhw wedi dychryn, roeddan ni wedi hefyd… roeddan ni wedi ffeindio ychydig ond mam bach gathon ni agoriad llygad a hwnnw wnaeth ddechrau dreifio ni fwy ymlaen.”

Ar ôl blynyddoedd o feddwl eu bod ar eu pen eu hunain, roedden nhw nawr yn rhan o grŵp a’r stori yn dechrau gwneud penawdau. Roedd gobaith, ond roedd y dasg o fynd benben ag un o brif sefydliadau Prydain yn un enfawr, ond ddim yn rhy fawr i un dyn o ogledd Cymru.

Torri calon

Yr un benderfynodd fynd a’r maen i’r wal oedd Alan Bates. Roedd eisoes wedi bod yn rhedeg gwefan yn amlinellu’r achos, yn casglu tystiolaeth ac yn lobïo.

Nawr fe geisiodd gael neges i’r degau o is-bostfeistri oedd ar fap Taro 9 a threfnu cyfarfod yng nghanolbarth Lloegr. Daeth tua 40 yno - nifer erioed wedi cyfarfod na siarad gyda is-bostfeistri eraill am eu problemau. Sefydlwyd grŵp y Justice for Sub-postmasters Alliance, gydag Alan Bates yn gadeirydd, ac yn araf bach dechreuodd y gaseg eira dyfu.

Fe wnaeth cwmni cyfreithwyr o Lundain dderbyn eu hachos a dechrau’r broses hir o gyfweld a chasglu tystiolaeth.

Dwy frawddeg oedd ymateb Swyddfa’r Post i’r stori hyd yma: doedd dim problemau technegol, roedd y system yn gadarn – a’r miliynau o weithiau roedd yn cael ei ddefnyddio i brynu a gwerthu bob dydd ym Mhrydain yn brawf o hynny. Hefyd, roedden nhw bob tro’n ymchwilio i unrhyw bryder gan eu gweithwyr.

Swyddfa'r Post dan bwysau

Ond wrth i’r stori dyfu roedd nifer cynyddol o aelodau seneddol yn codi pryder, roedd mwy o achosion yn dod i’r fei a’r cyfryngau Prydeinig hefyd yn dechrau gofyn cwestiynau.

Roedd Swyddfa’r Post o dan bwysau, ac yn 2013 llwyddwyd i’w perswadio i gynnal ymchwiliad. Cyflogwyd cwmni o gyfrifwyr fforensig Second Sight i ymchwilio i’r honiadau ac fe gafodd 47 o’r cyn is-bostfeistri gyflwyno eu hachos.

Roedd hwn yn drobwynt yn eu hymgyrch am gyfiawnder – yr ymchwiliad annibynnol cyntaf.

Ac fe ddaeth newyddion annisgwyl yn adroddiad interim Second Sight.

Ar ôl astudio pedwar o’r 47 achos doedden nhw ddim wedi dod o hyd i broblemau sylfaenol o fewn y system. Ond fe ddaethon nhw o hyd i ddau ddiffyg oedd wedi arwain at broblemau mewn rhai swyddfeydd post.

Roedd yr adroddiad hefyd yn codi cwestiynau am Horizon yn ehangach – safon yr hyfforddi, agwedd Swyddfa’r Post a’r ymchwil roedden nhw’n ei wneud i mewn i’r achosion.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud bod risg yn codi o sefyllfa gyfreithiol bwerus ac anarferol Swyddfa’r Post.

Yn y rhan fwyaf o achosion troseddol, yr heddlu sy’n gwneud yr ymchwiliad cyn ei basio ymlaen i Wasanaeth Erlyn y Goron. Y nhw wedyn sy’n penderfynu a ddylid erlyn neu beidio.

Swyddfa’r Post ydi un o’r ychydig fudiadau sydd efo’r grym i wneud y ddau beth – ymchwilio’r achosion a mynd a’r achos yn syth i’r llys heb ddefnyddio gwasanaeth erlyn y goron.

Oherwydd hyn, yn ôl adroddiad Second Sight, roedd cyfrifwyr Swyddfa’r Post yn canolbwyntio mwy ar gael arian yn ôl ac ar erlyn nag oedden nhw ar drio canfod gwir achos y problemau.

Fe gafodd yr adroddiad ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin, ac yn y wasg.

Roedd pobl yn dechrau deffro i’r stori – yn llythrennol felly yn achos un dyn yng Ngheredigion.

Roedd Alun Lloyd Jones – oedd erbyn hyn wedi gadael Swyddfa Bost Llanfarian ac yn ad-dalu'r arian fenthycodd gan ei dad-yng-nghyfraith – yn pendwmpian yn ei gartref gyda’r nos yn 2013.

Meddai: “O’n i ‘di cwympo i gysgu o flaen y teledu un noson… a sydyn reit nes i ddihuno ac o mlaen o’dd rhywbeth ar y newyddion i ddeud bod 'na bobl eraill yn yr un twll ag o ni wedi bod.

“O’n i yn meddwl mai fi oedd yr unig dwpsyn oedd wedi colli pres fel ’ma.”

Fe gysylltodd gyda’r grŵp a chael ei gyfweld gan Second Sight, oedd yn paratoi eu hadroddiad llawn, a’r cyfreithwyr - gan yrru dogfennau a manylion ei achos iddyn nhw.

“Ofynnwyd i mi ‘what are you after?’ Nes i ddweud bod e’n syml - dwi eisiau popeth yn ôl, efo llog – nid llog isel fel rŵan, ond 5-6% fel oedd e bryd hynny, a dwi eisiau ymddiheuriad cyhoeddus am roi fi a fy nheulu drwy uffern. Maen nhw wedi gwneud irreparable damage i fy safon byw.”

Mewn undeb mae nerth

Roedd y grŵp yn tyfu – roedd 150 ohonyn nhw erbyn hyn - ac roedd Swyddfa’r Post wedi cytuno i greu panel cymodi i ystyried pob achos unigol. Ond ar ôl y camau breision ymlaen, fe ddaethyn sydyn pethau i stop.

Roedd cwynion bod Swyddfa’r Post yn gwrthod cynnwys rhai o’r unigolion oedd efo’r achosion cryfaf i gael mynediad i’r broses cymodi, ac yn ceisio arafu popeth. Gwadu hyn wnaeth Swyddfa’r Post ond chwerwodd y berthynas.

Daeth Swyddfa’r Post a’r panel i ben a rhoi’r sac i Second Sight - ddiwrnod cyn iddyn nhw ryddhau eu hadroddiad llawn.

Yn Nhŷ’r Cyffredin, roedd rhai aelodau seneddol yn gandryll – gan eu cyhuddo o greu cynllun cymodi ‘ffug’, o ymddwyn yn ‘drahaus’ a bod y cyfan yn ‘sgandal cenedlaethol’.

“Roedd o’n ffars,” meddai Noel Thomas. “Aeth rhywun o dop yr ystol yn ôl i lawr i’r gwaelod eto. Mae wedi bod fel roller coaster".

Wedyn yn 2015, daeth tro ar fyd.

Yn gyntaf, cynhaliwyd ymchwiliad i’r mater gan bwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin a holwyd prif weithredwr Swyddfa’r Post, Paula Vennells.

Fe adawodd Paula Vennells ei swydd fis Mai 2019 ar ôl saith mlynedd wrth y llyw. Fe dderbyniodd hi anrhydedd y CBE yn gynharach yn y flwyddyn am ei gwasanaeth i Swyddfa’r Post ac elusennau.

Yn ail, fe wnaeth cwmni cyfreithwyr Freethes gytuno i gwffio’r achos, ar ôl i’r ymgais gyntaf gan y cwmni gwreiddiol ddod i ben. Roedd cwmni ariannol wedi cytuno i gyllido’r achos – a chymryd y risg o dalu degau o filiynau o bunnoedd mewn ffioedd cyfreithwyr os oedden nhw’n aflwyddiannus. Os oedd yr achos yn llwyddo, bydden nhw’n cael eu siâr o’r iawndal.

Dyma fynd drwy’r broses unwaith eto o ymchwilio a chasglu tystiolaeth ar gyfer pob achos unigol.

Digon yw digon

Roedd Alun Lloyd Jones wedi cael llond bol. Dyma’r trydydd tro iddo orfod mynd dros un o gyfnodau anoddaf ei fywyd efo crib mân – ac wedi cael torcalon o golli mab a’i ferch i waeledd yn ystod y cyfnod.

Meddai wrth Cymru Fyw: “Roedd wedi cymryd blynyddoedd o ’mywyd yn barod. Roedd yn rhaid i mi lenwi'r un wybodaeth drosodd a throsodd - gyrru e-byst a llythyrau nôl a mlaen nôl a mlaen, eistedd lawr i roi ffeithiau ar bapur – yr un rhai dro ar ôl tro.

“Roedd yn cymryd cymaint o amser, roedd yn afresymol o araf a wnes i gael llond bol – ac roedd yn cael effaith ar iechyd.

“Nes i bacio allan. Doeddwn i ddim eisiau colli’r £20,000 ond roedd rhaid i fi symud ymlaen.

“Nes i siarad efo fy nheulu, fy ngwraig a fy mab – a dyma fy mab yn dweud ‘for God’s sakes draw a line – gorffen e a symud ymlaen’. Felly wnaethon ni benderfynu tynnu llinell o dan e, gorffen e, ond mae’n haws dweud na gwneud am sawl rheswm, ac arian ddim ond yn un ohonyn nhw.”

Ond roedd Alan Bates a Noel Thomas ar fin cychwyn ar bennod olaf ddramatig iawn.

Y Post Olaf

Ar fore 7 Tachwedd 2018, fe gamodd Alan Bates i fewn i'r Uchel Lys yn Llundain, calon system gyfreithiol Cymru a Lloegr. Taith deirawr ar drên o’i gartref ger Llandudno i’r brifddinas; taith bell iawn o ble’r oedd o yn 2003 pan ddechreuodd o’r siwrnai am gyfiawnder.

Roedd achos iawndal yr is-bostfeistri yn erbyn eu cyflogwyr ar fin cychwyn.

Oherwydd cymhlethdod yr achos byddai Alan Bates and others v. Post Office Ltd yn cael ei rannu i sawl rhan ac yn parhau am dros flwyddyn.

Natur y cytundeb rhwng Swyddfa’r Post a’r is-bostfeistri oedd dan y chwyddwydr gyntaf – yn y bôn, dadl is-bostfeistr Craig-y-Don yn 2003: ydi’r cytundeb yn un teg?

Erbyn hyn roedd niferoedd yr is-bostfeistri yn y grŵp wedi cynyddu i 557, ond dim ond rhai fyddai’n cael eu galw i roi tystiolaeth. Alan Bates fyddai’r cyntaf ac roedd yn brofiad newydd iddo.

“Y peth efo bod ar y stand yn y llys ydi, dydi rhywun ddim yn gwybod beth sydd am ddigwydd - gan nad oeddwn i wedi bod mewn llys o’r blaen,” meddai wrth Cymru Fyw.

“Roedd yn brofiad reit ddifyr. Mae rhywun wedi sgwennu ei ddatganiad tyst, ond does gan rywun ddim syniad am y cwestiynau - ond doedd gen i ddim byd i’w guddio, felly doedd dim problem gen i fod yno.”

Y dyfarniad cyntaf

Ar ôl pedair wythnos o dystiolaeth gymhleth, fe ddaeth y ddyfarniad ar 15 Mawrth 2019.

Fe gafodd nifer o gymalau o’r cytundeb rhwng Swyddfa’r Post a’u holl bostfeistri eu dyfarnu yn annheg – ac felly yn anghyfreithiol. Roedd y barnwr yn feirniadol o’r cytundeb ac roedd un pwynt yn benodol o ddiddordeb i bobl fel Noel Thomas.

Yn ôl Justice Fraser, os oedd is-bostfeistr wedi ffonio’r ddesg gymorth i gwestiynu’r cyfrifon, doedd arwyddo bod y balans yn gywir er mwyn gallu agor y post a pharhau a’r busnes y diwrnod canlynol ddim yn golygu eu bod yn derbyn bod y ffigwr yn gywir, ac yn sicr ddim yn dystiolaeth o anonestrwydd.

Roedd y barnwr hefyd yn chwyrn ei feirniadaeth o ymddygiad Swyddfa’r Post:

"Mae’n ymddangos bod Swyddfa’r Post, ar adegau o leiaf, yn ymddwyn fel petai yn atebol iddo’i hun yn unig.” - Justice Fraser

Ar ôl yr holl flynyddoedd o frwydro, roedd yr is-bostfeistri yn dathlu buddugoliaeth.

Alan Bates yn siarad gyda'r wasg wedi'r dyfarniad LLUN: SAM TOBIN

Alan Bates yn siarad gyda'r wasg wedi'r dyfarniad LLUN: SAM TOBIN

“Roedd y dyfarniad  yn gyffrous iawn i ni, doedden ni ddim yn gwybod beth oedd o am fod a be’ fyddan ni’n ei dderbyn,” meddai Alan Bates. “Allwn ni ddim bod yn hapusach – roedd yn gyfiawnhad o bopeth ac yn profi bod o wedi bod werth gyrru ymlaen efo’r holl beth dros y blynyddoedd.”

Ond byr iawn oedd y dathliadau gan bod yr ail achos wedi dechrau ers ychydig ddyddiau. Byddai hwn yn canolbwyntio ar system technoleg gwybodaeth Horizon a’r gefnogaeth oedd ar gael. Oedd y system yn ddiffygiol?

Unwaith eto yn ystod y gwrandawiad datgelwyd nifer o bwyntiau oedd yn cadarnhau'r hyn roedd yr is-bostfeistri wedi bod yn dadlau yn eu cylch ers amser maith – er enghraifft bod trydydd parti yn gallu cael mynediad i’r system gyfrifiadurol heb i’r is-bostfeistr wybod.

“Mae’r gwir yn dod allan er gwaethaf corfforaeth enfawr yn taflu arian mawr ato." - Alan Bates.

Nid y dadleuon yn unig oedd yn creu stŵr. Ar ddiwrnod ola’r dystiolaeth roedd y llys gyfan mewn sioc ar ôl cam cyfreithiol hynod o anarferol gan Swyddfa’r Post – oedd yn dangos eu bod yn anobeithio yn ôl rhai.

Ar sail ei ddyfarniad hallt yn yr achos gyntaf, roedd Swyddfa’r Post yn cyhuddo’r barnwr Justice Fraser o duedd ac yn gofyn iddo gamu i lawr o’i ddyletswyddau am weddill yr achos.

Gohiriwyd yr achos am wythnosau hyd nes i’r cais gael ei wrthod a chwblhawyd y gwrandawiad.

Cyhoeddiad annisgwyl

Bum mis yn ddiweddarach roedd cynnwrf wrth i ddyddiad y dyfarniad nesáu – 16 Rhagfyr 2019.

Ond bum diwrnod yn gynt daeth cyhoeddiad annisgwyl ar y cyd rhwng yr is-bostfeistri a’u cyn-gyflogwr wnaeth y penawdau ar draws Prydain. Roedd yn ymddangos bod y cyfan drosodd.

Yn dilyn trafodaethau cymodi, oedd yn digwydd ar wahân i’r gwrandawiad yn y llys, roedd y ddwy ochr wedi dod i gytundeb a fyddai’n dod a’r anghydfod cyfreithiol i ben.

Byddai Swyddfa’r Post yn talu bron i £58m i'r is-bostfeistri ac roedden nhw’n disgyn ar eu bai – i raddau o leiaf.

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd Swyddfa’r Post, Tim Parker: “Rydym yn derbyn ein bod, yn y gorffennol, wedi gwneud pethau'n anghywir wrth ddelio gyda nifer o is-bostfeistri ac rydym yn edrych ymlaen nawr i symud ymlaen, gyda'n prif weithredwr newydd yn arwain y broses sylweddol o ailwampio ein perthynas gydag is-bostfeistri."

Yn ei ddatganiad o, diolchodd Alan Bates brif weithredwr newydd Swyddfa'r Post Nick Read am gynorthwyo i ddod i gytundeb yn yr anghydfod hir yma, a chroesawu'r bwriad i 'ailsefydlu'r berthynas rhwng Swyddfa'r Post a'r is-bostfeistri.'

Fe gafodd Noel Thomas alwad gan newyddiadurwr oedd wedi gweld y datganiad:

“Mi ddaru cyfaill i mi ffonio fi, a dyma fo’n dweud wrtha i ‘ti di clywed y newyddion’, ‘naddo medda fi’ ac ar ôl iddo ddweud dyma fi’n ffonio’r ferch ac roedd hi wedi cael neges. Mi eisteddish i yn y room ffrynt am tua deg munud a jest torri i lawr.”

Costau cyfreithiol anferthol

Wrth i’r llwch setlo a’r glo mân ddod i’r golwg, roedd yr holl lawenhau yn pylu wrth i rai holi: pwy oedd wedi ennill go iawn?

Byddai Swyddfa’r Post – oedd ddim yn derbyn cyfrifoldeb, dim ond yn setlo’r achos - yn talu £58m i’r is-bostfeistri. Swm enfawr, ond byddai rhan helaeth yn mynd i dalu costau cyfreithiol ac i’r cwmni wnaeth ariannu eu hachos. Ar gyfartaledd byddai'r 557 o is-bostfeistri yn cael dim ond £18,000 yr un. Mae’n bosib bod y costau aruthrol oedd yn cynyddu’n ddyddiol yn rhan o’r rheswm i'r is-bostfeistri ddod i gytundeb.

Ond fel ffilm Hollywood dda – roedd un tro annisgwyl arall yn y stori, gydag oblygiadau pellgyrhaeddol.

Yr ail ddyfarniad

Ar 16 Rhagfyr roedd y ddwy ochr, a’r newyddiadurwyr, yn ôl yn llys 26 yn Adeilad Rolls yr Uchel Lys i glywed dyfarniad yr ail achos. Roedd llai o ddiddordeb ynddi a theimlad bod y stori ar ben – tan i Justice Fraser ddechrau traddodi.

Roedd gan y llys ‘bryderon dwys’, meddai, am dystiolaeth rhai o gynrychiolwyr Fujitsu – y cwmni cyfrifiadurol tu cefn i system Horizon. Roedd hefyd yn poeni am dystiolaeth rhai o weithwyr y cwmni mewn erlyniadau gafodd eu dwyn gan Swyddfa’r Post yn erbyn is-bostfeistri. Byddai’n gyrru’r manylion i Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus i ymchwilio ymhellach.

Roedd yn feirniadol o ymddygiad cwmni Fujitsu yn gyffredinol, gan ddweud: “Mae’n ymddangos eu bod wedi ymbellhau, yn eu hymchwiliadau, o ddod i’r casgliad bod yna unrhyw broblem gyda’r meddalwedd ar unrhyw adeg pan oedden nhw’n gallu gwneud hynny, er gwaetha tystiolaeth i’r gwrthwyneb, agwedd sydd wedi parhau yn y dystiolaeth roddodd Fujitsu yn yr achos llys Horizon.”

Roedd Fujitsu nawr yng nghanol y potes.

A Swyddfa’r Post? Mwy o feirniadaeth yn y ddyfarniad, gan ddweud eu bod wedi gwneud: “...honiadau moel a gwadiadau sy’n anwybyddu beth ddigwyddodd mewn gwirionedd…

"...cyfystyr â mynnu yn yr unfed ganrif ar hugain bod y byd yn fflat” - Justice Fraser

Ychwanegodd y barnwr: “Y thema mewn rhai dogfennau mewnol ydi sensitifrwydd eithafol (mae’n ymddangos fel petai’n ymylu, ar adegau, i baranoia sefydliadol) ynglŷn ag unrhyw wybodaeth allai godi amheuon ar enw da Horizon, neu agor y drws i archwiliad pellach.”

Ac ar ôl yr holl flynyddoedd o’r is-bostfeistri yn beio’r cyfrifiadur a Swyddfa’r Post yn gwadu hynny fe ddywedodd Justice Fraser yn ei ddyfarniad bod ‘risg materol’ bod y system wedi achosi i gyfrifon is-bostfeistri fod yn is nag oedden nhw mewn gwirionedd. Ychwanegodd bod y system yn bell o fod yn gadarn – a bod problemau wedi parhau hyd yn oed ar ôl i welliannau gael eu gwneud.

Roedd y wên ar wynebau nifer o'r is-bostfeistri aeth i Lundain i glywed y ddyfarniad yn dweud y cyfan.

Fe alwodd Arglwydd Arbuthnot, sy’n aelod o grŵp seneddol sy’n edrych i mewn i faterion yn ymwneud â Swyddfa’r Post ac yn un o’r gwleidyddion cyntaf i frwydro ar ran yr is-bostfeistri pan oedd yn Aelod Seneddol, am archwiliad barnwrol i’r hyn ddigwyddodd gan fod Swyddfa’r Post wedi rhoi gwybodaeth anghywir drosodd a throsodd.

Mewn dataniad dywedodd cwmni Fujitsu eu bod yn cymryd y ddyfarniad yn ddifrifol iawn ac am ei adolgu'n fanwl.

Dywedodd cadeirydd Swyddfa'r Post Tim Parker ei fod o wedi ymddiheuro - yn bersonol ac ar ran y sefydliad - i'r rhai gafodd eu heffeithio pan gafodd Swyddfa'r Post bethau yn anghywir a'u bod am ddysgu gwersi.

Meddai: "Tra bod y dyfarniad yn cydnabod gwelliannau wnaethom ni ei wneud a bod y system bresennol o Horizon yn gadarn o'i gymharu â systemau tebyg, mae'n dod i gasgliad am fersiynau blaenorol o'r system ac ymddygiadau yn y gorffennol sy'n dangos y pwysigrwydd am newidiadau sydd rhaid i ni wneud i'n busnes, yn enwedig yn y ffordd rydym yn cefnogi ein postfeistri."

Ychwanegodd bod y prif weithredwr newydd Nick Read eisoes wedi dechrau ar y gwaith hwnnw.

Un gŵr fethodd y ddrama yn Llundain oedd Alan Bates. Roedd o adref yn Llandudno yn gwella ar ôl triniaeth mewn ysbyty ond mewn datganiad fe ddywedodd:

"Mae’r dyfarniad yma, fel yn yr achos gyntaf, yn cyfiawnhau popeth rydym ni wedi bod yn ddweud ers blynyddoedd...

"Mae’n ymddangos, o waith ymchwil gwych gan Eleanor Shaihk, bod llywodraethau olynol wedi methu yn eu cyfrifoldeb statudol i oruchwylio a rheoli Swyddfa’r Post ac mae hwn yn rhywbeth rydym yn bwriadu gofyn i’n Haelodau Seneddol ei godi’r flwyddyn nesaf.

“Os ydi hyn yn wir, byddwn eisiau ailennill popeth rydym wedi gorfod ei wario yn gwneud y gwaith ddylai’r llywodraeth fod wedi ei wneud.

“Tydi hyn ddim drosodd, dim ond yn ddiwedd pennod arall.”

Draw ar Ynys Môn, paratoi at y Nadolig oedd Noel Thomas – Nadolig gwahanol iawn i’r un dreuliodd yn y carchar yn 2006.

Yn ogystal ag ymchwiliad barnwrol ac iawndal teg, roedd o'n galw am un peth arall: cael gwared o'i record troseddol a chlirio ei enw yn llygad y gyfraith.

Noel Thomas a'i wraig Eira yn barod i ddathlu Nadolig 2019

Noel Thomas a'i wraig Eira yn barod i ddathlu Nadolig 2019

“Mae’n bwysig mod i’n clirio fy enw," meddai. "Ar ddiwedd y dydd, flynyddoedd yn ôl roedd postfeistr yn ddyn pwysig iawn yn ei ardal – ro'n i’n teimlo mod i’n fwy pwysig fel postfeistr nag oeddwn i fel cynghorydd ond pan ddigwyddodd hyn roedd y sioc yn anferth ac wrth gwrs cael fy ngyrru i carchar roedd hynny saith gwaeth.

“Am flynyddoedd – ac hyd yn oed rwan mae ambell i bobl, er mai ychydig iawn sydd ar ôl – yn cerdded ochr arall i’r lôn a dwi’n gobeithio neith clirio fy enw ddod a hynny i ben.”

Ychydig dros flwyddyn yn diweddarach, fe gafodd ei gyfle.

Diwedd y daith

Noel Thomas gyda'i blant ar blatfform yng ngorsaf drenau Bangor

Sian, Noel ac Edwin Thomas ar blatfform gorsaf drên Bangor

Sian, Noel ac Edwin Thomas ar blatfform gorsaf drên Bangor

Toc wedi chwech y bore, ar 22 Ebrill 2021, ac roedd Noel Thomas ar y trên o Fangor i Lundain.

Fis ynghynt roedd y Llys Apêl wedi cynnal gwrandawiad i’w achos o a 41 o is-bostfeistri eraill yn dilyn ymchwiliad gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol. Nawr, roedd yr Arglwydd Ustus Holroyde yn barod i roi ei ddyfarniad.

Gyda Noel yn y gwrandawiad oedd ei blant Sian ac Edwin. Un oedd yn methu bod gyda nhw ar gam olaf eu taith am gyfiawnder oedd ei fab Arfon – neu Posti i’w ffrindiau – fu farw o waeledd flwyddyn ynghynt.

Gyda’r wasg ar draws Prydain yn gwylio, ac yng nghanol ysblander y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol, fe glywodd cyn-bostfeistr Gaerwen bod ei euogfarn yn cael ei ddileu a’i fod wedi ei gyhuddo a’i garcharu ar gam. Roedd y llys hefyd yn dileu euogfarnau 38 o’r postfeistri eraill gan nad oedd eu hachosion yn ddiogel.

Fe ddywedodd Arglwydd Ustus Holroyde yn y llys bod Swyddfa’r Post yn “gwybod bod materion difrifol ynglŷn â dibynadwyedd Horizon” a bod ganddyn nhw “ddyletswydd glir i ymchwilio’r” namau yn y system.

Ond roedd Swyddfa’r Post wedi “honni’n gyson bod Horizon yn gadarn a dibynadwy” a heb wrando ar bryderon is-bostfeistri.

Fe ymddiheurodd cadeirydd Swyddfa’r Post Tim Parker.

Noel Thomas a'i ferch Sian tu allan i'r llys, wedi'r ddyfarniad

Tu allan i’r llys, roedd yr emosiwn yn amlwg.

“Mae wedi bod yn un mlynedd ar bymtheg, dweud gwir, ac am y pedair blynedd cynta’ doedd rhywun ddim yn gwybod am neb,” meddai Noel Thomas. “Dyfal donc a dyr y garreg a ‘da ni wedi cyrraedd heddiw. ‘Da chi’n meddwl bod chi’n cyrraedd y lan ac mae rhywbeth yn mynd â chi allan yn ôl wedyn.

"Tydi hi ddim wedi bod yn hawdd ond mae gen i deulu wrth gwrs, mab ieuengaf a’r ferch. Gollodd ni’r mab hynna flwyddyn ddiwethaf - roedd o’n 50... ond ‘da ni ‘di cyrraedd.”

Nid dyma ddiwedd y daith yn llwyr chwaith.

Mae ymchwiliad ar y gweill ar hyn o bryd, ond mae galwadau am ymchwiliad cyhoeddus llawn ac am iawndal teg. Gyda 736 o is-bostfeistri wedi eu herlyn oherwydd anghysonderau yn ymwneud â Horizon rhwng 2000 a 2013, mae’n bosib bydd angen rhai o’r achosion hynny gael eu hadolygu.

Mae ymchwiliad troseddol wedi dechrau gan heddlu Llundain i arbenigwyr cyfrifiadurol roddodd dystiolaeth mewn rhai achosion. Does yr un unigolyn o fewn Swyddfa’r Post na’r cwmni cyfrifiadurol Fujitsu wedi derbyn cyfrifoldeb na’u dwyn i gyfrif am y methiannau.

Noel Thomas yn dathlu tu allan i'r llys

Noel a'i ferch Sian yn dathlu tu allan i'r llys

Noel a'i ferch Sian yn dathlu tu allan i'r llys

Ac mae yna gwestiynau ehangach: pwy o fewn Swyddfa’r Post neu Fujitsu oedd yn gwybod beth, a phryd? Oedd unrhyw un yn gwybod digon i fedru osgoi’r cyfan yn llawer, llawer cynt?

Yn y cyfamser, tra bod eraill o bosib yn chwysu, bydd Noel Thomas yn gallu cerdded o gwmpas Gaerwen heb record droseddol am y tro cyntaf ers 15 mlynedd, gan wybod fod y gyfraith yn cytuno efo’r hyn roedd o wedi ei ddweud o’r cychwyn cyntaf un.


Cynhyrchu: Bryn Jones

Hawlfraint lluniau: BBC, Sam Tobin, Alan Bates, Sian Thomas, PA News

Dyddiad cyhoeddi: 23 Ebrill 2021


STRAEON ERAILL O DDIDDORDEB: